John AlunPUGHDymuna Eleri, Rhys, Rhian, Carys, Ann Ellen a'r teulu i gyd ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atynt yn eu profedigaeth o golli John Alun, Farmyard, mor ddisymwth. Diolch am bob ymweliad, cardiau, galwadau ffôn, a phob gair o gysur, mae pob un wedi bod yn gysur mawr i ni fel teulu. Diolch i'r Parch Christopher Prew am ei gefnogaeth i ni fel teulu a'i arweiniad ddiwrnod yr angladd a diolch i bawb gymerodd ran yn y gwasanaeth. Diolch i Dylan a chwmni Pritchard a Griffiths am eu trefniadau gofalus. A diolch i bawb am eu rhoddion hael er cof am John, casglwyd swm anrhydeddus iawn o £2,700 a fydd yn cael ei rannu rhwng Sefydliad Ymchwil y Galon a Sefydliad DPJ.
Keep me informed of updates